Taith26 Eryri (26 milltir o gerdded...a sawl blistar)
Fundraising for Alzheimer's Society
Fundraising for Alzheimer's Society
TAITH GERDDED 26 MILLTIR | 26 MILE TREK (Dolgellau, 29/6/2024)
Mae hi'n ddegawd erbyn hyn ers i gadarnhad ddod fod fy Nhaid yn dioddef o dementia.
Hen gyflwr creulon ydyw, ac roedd yn gyfnod hollol sobor a thrist o weld salwch fel hyn yn llorio un o'm harwyr pennaf.
Bu farw fis Medi 2016, ac yn ystod y blynyddoedd hynny cefais weld effaith a chrafangau dementia ar unigolyn, ond hefyd yr effaith bur annifyr a gafodd ar deulu.
Ers hynny, dwi wedi bod yn awyddus i cyflawni ryw gamp i godi pres i'r Gymdeithas Alzheimers, ac i gofio am Taid. Dwi am wneud hynny trwy ymuno â thaith gerdded 26 milltir ar y 29 Mehefin 2024 o amgylch godre Cader Idris gan ddechrau a gorffen y daith yn Nolgellau.
Dydw i heb gerdded pellter fel hyn ar dir mynyddig o'r blaen, felly mae ryw deimlad o nerfusrwydd yn cosi, ond ai amdani!
Os oes gennych bunt neu ddwy hoffech gyfrannu at yr achos, byddwn yn hynod ddiolchgar o'r gefnogaeth.
***
It's now a decade since Taid was diagnosed with dementia.
It's a horrible disease, and was sobering and sad for me to see such an illness grab hold of one of my heroes.
He passed away in September 2016, and during those years I got a glimpse of the hold dementia has on an individual, as well as the way it affects family.
Ever since, I've been wanting to do something to raise money for the Alzheimers Society and to remember him by. And so, on the 29 June 2024, I'll be joining a 26mile walk along the foothills of Cader Idris, starting and finishing in Dolgellau.
If you have a few pounds to spare, I'd be hugely greatful if you sponsored my walk.
* Charities pay a small fee for our service. Find out how much it is and what we do for it.