Story
For English version, scroll down.
Mae casgliad 2024 Penrhyn-coch at Gymorth Cristnogol yn un drwy’r we – ers 2020 nid oes casgliad o ddrws i ddrws. Gallwch ddewis rhoi yn ddienw neu gallwch guddio y swm a roddir ar JustGiving.
Os ydych am gyfrannu i Gymorth Cristnogol drwy gasgliad Penrhyn-coch a ddim am wneud ar y we gallwch anfon siec yn daladwy i 'Cymorth Cristnogol' at Eirian Reynolds, 63 Ger-y-llan, Penrhyn-coch, Aberystwyth, SY23 3HQ neu at Eglwys St Ioan, d/o Y Ficerdy, Garth, Penrhyn-coch SY23 3EP. Gallwch holi am ffurflen rhodd gymorth os yw’n berthnasol. Bydd y casglu'n dod i ben ar ddiwedd mis Mehefin.
Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol (12–18 Mai) eleni, byddwn yn tynnu sylw at ein gwaith yn Burundi, un o wledydd tlotaf y byd yn ariannol, ac un o'r gwledydd sy’n lleiaf parod i frwydro yn erbyn effeithiau’r argyfwng hinsawdd.
Gydag economi fregus sy’n seiliedig ar amaethyddiaeth, mae pobl Burundi mewn sefyllfa ansicr iawn yn wyneb sychder, llifogydd a thirlithriadau.
Mae'r argyfwng costau byw byd-eang wedi dwysáu'r heriau sy'n wynebu teuluoedd yno. Mae 70% a mwy o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi, a 52% o blant yn dioddef diffyg maeth cronig.
Gwyddom na allwn ddatrys pob problem sy'n wynebu ein cymdogion yn Burundi, ond gyda'n cymorth ni, mae mwy o deuluoedd yn creu incwm dibynadwy ac amrywiol sy'n cynnig sicrwydd bwyd iddyn nhw, iechyd gwell, cartrefi mwy diogel, mwy o wytnwch a gobaith.
‘Pan welwn ni Cymorth Cristnogol, rydyn ni'n cael cysur ac yn teimlo nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain. Rydyn ni'n gweld bod gennym ni bobl i'n cefnogi ni.’ Aline Nibogora.
Darllenwch fwy o hanes Aline isod am sut y llwyddodd i wthio'n ôl o’r dibyn a goroesi, diolch i ychydig bach o help llaw gan Cymorth Cristnogol.
Stori Aline
Roedd Aline wedi profi tlodi enbyd - ar ôl sawl blwyddyn mewn priodas dreisgar, priododd ei gŵr fenyw arall, gan orfodi Aline i ffoi heb ei chwe phlentyn. Gorfodwyd hi i gysgu ar strydoedd Burundi. Heb gartref, gofal iechyd na diogelwch, gwthiwyd Aline i ymylon eithaf tlodi.
'Ro'n i'n crwydro'r strydoedd, yn gofyn i unrhyw un am le i gysgu. Byddai'r rhai a fyddai’n dangos caredigrwydd yn gadael i mi aros am ddeuddydd neu dri, ond roedd yn anodd. Byddai pobl yn fy sarhau i ac yn fy nhrin â dirmyg. Roedden nhw wedi anghofio fy mod i'n ddynol. Roedd yn dorcalonnus.’
Ond fe newidiodd bywyd Aline ar ôl cwrdd â Cymorth Cristnogol. Fe wnaethom ni ddarparu hyfforddiant a chymorth hanfodol, oedd yn golygu y gallai Aline ddechrau busnes bach yn gwerthu afocados a chnau daear yn lleol. Mae hyn wedi'i helpu i brynu a thyfu bwyd maethlon, adeiladu cartref iddi hi ei hun, a chael ei phlant yn ôl.
Roedd Aline yn benderfynol o wthio’n ôl yn erbyn annynoldeb tlodi, gyda gobaith, ffydd a chariad tuag at ei phlant yn ei gyrru ymlaen. Llwyddodd i wneud hyn er gwaethaf pawb a phopeth, gyda rhywfaint o help llaw gan Cymorth Cristnogol.
Allwch chi helpu rhywun fel Aline i wthio'n ôl yn erbyn annynoldeb tlodi yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni?
English
The 2024 Penrhyncoch collection for Christian Aid is again through this JustGiving page; since 2020 there is no door to door collection. If you wish you can choose to give anonymously or you can hide the amount you are giving on JustGiving.
If you do not wish to give on this page, you can give by cheque payable to 'Christian Aid' and sent to either Eirian Reynolds, 63 Ger-y-llan, Penrhyncoch, Aberystwyth, SY23 3HQ or St John’s Church, c/o Y Ficerdy, Garth, Penrhyn-coch SY23 3EP. You may request a gift aid form if relevant. The collection will close at the end of June.
This Christian Aid Week (12–18 May), we're highlighting our work in Burundi, one of the poorest countries in the world financially, and one of the least prepared to combat the effects of climate crisis.
With a fragile economy built on agriculture, people in Burundi find themselves in a precarious position in the face of droughts, floods and landslides.
The global cost of living crisis has intensified the challenges families face. More than 70% of the population live in poverty, and 52% of children are chronically malnourished.
We know we can’t solve every problem that our neighbours in Burundi will face, but with our support, more families are building reliable and diverse incomes that are bringing them food security, better health, safer homes, increased resilience and hope.
‘When we see Christian Aid, we feel comforted, we feel we are not alone. We see that we have people to back us up.’ Aline Nibogora.
Read on for Aline's story and how she pushed back from the brink of survival with just a little help from Christian Aid.
Aline's story
Aline felt the full force of extreme poverty after several years of an abusive marriage ended, when her husband married another woman, forcing her to flee without her six children. She was forced to sleep on the streets of Burundi. With no home, healthcare or security, Aline was pushed to the brink of survival.
'I wandered the streets, asking anyone for a place to sleep. Those who showed me kindness would let me stay for two or three days, but it was difficult. People would insult me and treat me with contempt. They forgot I was a human being. It filled me with sorrow.’
But Aline transformed her life after meeting Christian Aid. We provided vital training and support that meant Aline could nurture a small business trading avocados and peanuts locally. This has enabled her to buy and grow nutritious food, build a home to call her own, and return her children to her side.
Aline was determined to push back against the inhumanity of poverty, driven by hope, faith and the love of her children. Against the odds she had done this, with just a little help from Christian Aid.
Will you help someone like Aline to push back against the inhumanity of poverty this Christian Aid Week?