Story
Mae Meinir, Sian, Lea a finna' yn mynd i gwblhau 'heic' hir o Fangor i Betws-y Coed - taith o 26milltir, ddydd Sadwrn, Mai 25ain. Ein bwriad yw codi gymaint o arian a fedrwn ni drwy'n gilydd er mwyn cefnogi ymgyrch 'Mighty Hikes' McMillan.Yn anffodus, mae teuluoedd agos y bedair ohonom wedi cael eu heffeithio yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y clefyd creulon yma. Da ni'n benderfynnol o gwblhau y daith gyda'n gilydd a buasem yn ddiolchgar iawn o unrhyw gyfraniad.