Story
Yn 2022 mi wnes i redeg Hanner Marathon Caerdydd er côf am fy yncl Huw gan godi arian i Ymchwil Cancer Cymru. Eleni dwi am redeg o eto i Ymchwil Cancer Cymru ond am reswm gwahanol. Fel mae rhai ohonoch yn ymwybodol, cafodd mam ddiagnosis o gancer leni, sydd wedi taro ni gyd fel teulu. Heb yr elusen yma, fysa mam ddim yn cael y driniaeth wych mae hi yn ei dderbyn i allu byw bywyd mor normal a phosib. Mi fysa ni gyd yn falch o unrhyw gyfraniad, bach neu mawr.
In 2022 I ran the Cardiff Half Marathon in memory of my uncle Huw, raising money for Cancer Research Wales. This year I will be running again for Cancer Research Wales but for a different reason. As some of you are aware, my mother was diagnosed with cancer this year, which has hit us all as a family. Without the work of this charity, my mother would not be having the wonderful treatment she receives now in order to live as normal a life as possible. We would be grateful of any donation, large or small.