Story
O amgylch y byd mae ymdrech y cymunedau tlotaf i oroesi yn wyneb anghyfiawnder yn cael cymorth gan bartneriaid Cymorth Cristnogol.
Gwelwn un engraifft o hyn yng ngwlad Colombia, yng ngogledd orllewin De America, dyma lle mae apel Ffynhonnau Byw yn canolbwyntio.
Mae enghraifft arall i'w weld yng ngwlad Zimbabwe, yn neheubarth Affrica, lle mae apel Talentau Gobaith yn canolbwyntio.
Ffynhonnau Byw
Yn un rhan o Colombia, mae 1,500 o bobl wedi eu dadleoli gan lofa brig mwyaf y cyfandir, gwaith sydd wedi halogi tir a chyflenwad dŵr y cymunedau hyny.
Mewn rhanbarth arall yn y wlad, mae dŵr yfed miliynnau o bobl mewn perygl oherwydd math eraill o fwyngloddio. Yn y ddwy engraifft, mae partneriaid Cymorth Cristnogol wedi cynorthwy’r bobl leol i amddiffyn eu tir a’u hawliau trwy’r llysoedd, tra bod partneriaid eraill wedi eu helpu i addasu i’r heriau sy’n eu hwynebu i ffermio a chreu bywoliaeth.
Talentau Gobaith
Rhan allweddol o waith yr elusen yn Zimbabwe yw grymuso cymunedau lleol i allu goroesi yn wyneb tywydd anffafriol gan eu hyfforddi mewn technegau ffermio sydd yn fwy cydnaws â’r hinsawdd sy’n newid.
Mae arall gyfeirio hefyd yn rhan allweddol o rymuso cymunedau ac felly mae merched yn dysgu sgiliau newydd fydd yn eu gwneud yn fwy gwydn yn wyneb siociau tywydd.
Bydd yr arian a godir trwy Ffynhonnau Byw a Talentau Gobaith yn mynd i gefnogi gwaith tebyg gan Cymorth Cristnogol o amgylch y byd.