Story
Sgroliwch lawr am y Gymraeg
January this year our Dad was diagnosed with Motor Neuron Condition. 7 months later on August the 9th he passed away and our hearts broke. It's an uncommon condition that affects the brain and nerves. It causes weakness that gets worse over time where the muscles disintegrate and as yet there is no cure.
We didn't see it coming.
A fit and healthy man and former sports teacher who loved the outdoors, sports and travelling he needed a wheelchair only 4 months after diagnosis and full time carers within 6 months. It has had a profound effect on our family.
Very little is known about the condition and why it happens. Even though some well known people have suffered, there is still very little awareness and no sign of a cure.
We want to help change that.
For my 40th birthday in September this year, my sister Carys and I have decided to take on the challenge of the London-Paris bike ride which is a 500+km journey over a period of 4 days and it would be incredible if you could help us raise money toward this important cause along with awareness. We started training some months ago but in the last month as dad got worse, training took a NOSE DIVE. Days of cycling were replaced with days of cake eating and wine drinking after dad passed, but we’re still doing it.
We are so underprepared it’s out of this world!!
But we have two bikes and a lot of love!!
Throughout our lives, dad was our beacon of hope, love and kindness and solid as a rock every time we needed him. It's our turn now to make sure we do everything possible to help other families across the globe who are experiencing the same difficult journey.
#SistersDoingIt4Dad
Lots of love and thank you
Nia Medi & Carys Eleri
------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Mis Ionawr eleni cafodd ein tad y diagnosis o gyflwr Motor Neuron. 7 mis yn ddiweddarach bu farw yng nghartref ein teulu ac fe dorrodd ein calonnau. Mae'n gyflwr prin sy'n effeithio ar yr ymennydd a'r nerfau. Mae'n achosi gwendid sy'n gwaethygu dros amser lle mae'r cyhyrau yn diflannu a hyd yma does dim gwellhad.
Roedd hyn yn sioc anferth am fod dad wastad wedi bod yn ddyn ffit ac iach. Yn gyn athro chwaraeon ei ddiléit oedd yr awyr agored, chwaraeon a theithio. Roedd mewn cadair olwyn gyda braidd dim defnydd o'i goesau a hynny ond 4 mis ar ôl cael y symptomau cyntaf.
Mae wedi cael effaith ddwys ar ein teulu ac wedi newid ein bywydau yn llwyr.
Bach iawn sy'n cael ei adnabod am y cyflwr a pam ei fod yn digwydd i rai pobl. Ac er bod ambell berson byd enwog wedi byw gyda Motor Neuron, parhau y mae'r diffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â'r cyflwr a hynny am ei fod mor brin, ac mae hyn yn effeithio ar y lefel o ymchwil sy'n cael ei wneud i'r mater.
I ni'n dwy am geisio helpu i newid hynny.
Ar gyfer fy mhenblwydd yn 40 mis Medi eleni, mae fy chwaer Carys a finnau wedi penderfyni cymryd rhan yn her taith feicio Llundain i Baris i godi arian tuag at Y Gymdeithas Motor Neuron. Mi fydd hi'n daith o 500 Km + dros gyfnod o bedwar diwrnod ac mi fyddai'n wych petai chi'n gallu helpu ni godi arian tuag at yr achos ynghyd ag ymwybyddiaeth o'r cyflwr sy'n dinistrio bywydau ar draws y byd ers blynyddoedd lawer.
yn lle anrhegion felly, gofynnwn yn garedig i chi rhoi at yr achos fel y gallwn ni gyd neud ein rhan i sicrhau na fydd hyn yn gymaint o broblem yn y dyfodol i bobl eraill.
Drwy gydol ein bywydau i ni wedi - ac yn parhau - i fod mor lwcus o gael tad mor ffyddlon, caredig a chariadus. Ein tro ni yw hi nawr i sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i ymladd y cyflwr ac i roi gobaith i bobl eraill ar draws y byd sydd hefyd ar y daith anodd yma.
#DwyDrosDad
Cariad Mawr a diolch
Nia Medi a Carys Eleri.