Taith Marathon Llundain Sian | GISDA

London Marathon 2021 · 3 October 2021 ·
Cefais wybod mod i wedi cael lle i redeg Marathon Llundain ychydig fisoedd yn ôl ac er ei fod yn codi ofn mawr arnaf, rwyf yn benderfynol o drio fy ngorau i baratoi ar ei gyfer er mwyn codi cymaint o arian ag y gallaf tuag at gronfa Cymorth Llaw GISDA.
Elusen sydd yn cefnogi pobl ifanc digartref a bregus yng Ngwynedd yw GISDA, elusen wyf yn teimlo'n angerddol iawn am ei nod ac amcanion. O'r gronfa yma rydym yn gallu darparu cymorth ariannol tuag at brynu dodrefn ar gyfer tai pobl ifanc, fel rhewgell neu garped, gallu cynorthwyo drwy dalu blaendal tŷ, rhoi grant i brynu dillad, offer i fynd i’r coleg neu unrhyw beth sydd yn mynd i helpu person ifanc ar eu taith o gefnogaeth i gyflogaeth ac i fyw yn annibynnol.
Bydd y ras yn cymryd lle ar Hydref 3ydd 2021 ac mae gen i lawer iawn o waith paratoi i’w wneud cyn fyddai’n barod i gymryd yr her. Bydd y daith yma’n gymaint haws o wybod mod i yn casglu arian i gefnogi ein pobl ifanc ar yr un pryd! Ar hynny hoffwn ddiolch ymlaen llaw i chi a gofyn yn garedig am unrhyw gyfraniad allwch fforddio. Gallaf eich sicrhau ei fod yn gronfa teilwng iawn ac yn anffodus mae’r angen am y gronfa yma yn parhau i fodoli.
Fy ngobaith un diwrnod yw y bydd yna gydraddoldeb ymysg pobl ifanc ac ar draws ein cymdeithas ond ar hyn o bryd, yn anffodus mae'n parhau i fod yn fyd anghyfartal iawn.
I discovered that I had secured my place in 2021's London Marathon a few months ago and although the thought of it scares me, I am determined to train and prepare in order to raise as much money as i can towards GISDAs Cymorth Llaw Fund.
The race will take place on October 3rd 2021 but i have a lot of preparation and training to do before I take on the challenge. This journey will be so much easier knowing that I'm raising money at the same time! I would like to thank you in advance and kindly ask for any contribution you can afford. I can assure you that it is a very worthy cause and unfortunately the need for this fund still exists.GISDA is a charity that supports homeless and vulnerable young people in Gwynedd, a charity that I am very passionate about its core aims. From this fund we are able to contribute financial support towards items such as furniture for a young person's first house, help to pay for a house deposit, grant to buy clothes, equipment to go to college or anything that is going to help a young person on their journey from support to employment and on to independent living.
My hope one day is that equality will exist amongst young people and across the wider society; but for now, sadly it remains very unequal.
Charities pay a small fee for our service. Learn more about fees