Story
Reit te bois, syniad! , The Great Strictly Challenge (corona). Y syniad yw I BOB GRWP STRICTLY, Llanilar 1,2 a 3, Rhoshelyg, Plascrug, Aberaeron, Tregaron, ac unrhyw un arall, sy'n barod i ddysgu neu ailddysgu'r RWTÎNS , gan ddechrau gyda'r COUNTRY. Bydda i yn anfon fideo o’r ddawns atoch i'ch helpu ar eich ffordd a'r cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw ffilmio'ch hun yn dawnsio rhan neu'r cyfan o'r ddawns i'r trac cerddoriaeth, Cotton eyedJoe! Yna dim ond ei anfon yn ôl ata i sydd isie chi wneud. Sdim rhaid iddo fod yn hir, dim ond bo chi yn sicr o'r camau ac yn mynd amdani cyn i chi ei ffilmio. Sdim rhaid cael partner chwaith ond os ydych chi awydd ei ddysgu i'ch partner go iawn neu eich plant, ewch amdani! gwisgwch rhywbeth country hefyd 🧑🏼🌾! Byddai'n wych pe gallen ni wneud hyn a chodi arian i'r GIG ar yr un pryd! Ar ôl i mi dderbyn yr holl glipiau bydd Tomos, Geraint a minnau'n ei olygu gyda'n gilydd a'i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol. Dawnsathon o'n rwtîns strictly gwych! BETH CHI'N MEDDWL?
Reit te bois, I’m going to start something, The Great Strictly (corona) Challenge. My idea is FOR ALL STRICTLY GROUPS, Llanilar 1,2&3, Rhoshelyg, Plascrug, Aberaeron, Tregaron, and anyone else, willing to learn or re-learn the dance routines, starting with the country. I will send you a video of it to help you on your way and all you have to do is film yourself dancing a part or all of the dance to the music track, cotton eyed Joe! Then simply send it back to me. It doesn’t have to be long, just be sure of the steps and go full on, before you film it. You don’t need a partner but if you fancy teaching it to your actual partner or children, go for it! wear something country too 🧑🏼🌾! It would be great if we could do it and raise money for the NHS same time! Once I have received all clips Tomos, Geraint and I will edit it together and post on social media. It will be a danceathon of our great strictly routines! WHAT DO YOU THINK?