Story
Diolch am gymeryd yr amser i ymweld â fy nhudalen JustGiving. Thankyou for taking the time to visit my page.
Ar Ddydd Sul, Hydref yr 2il, fe fydda' i'n rhedeg Marathon Llundain, er bob tro dwi wedi cyflawni hanner marathon, dwi 'di dweud bydden i byth gallu gwneud dwbwl hynny! Er fy mod i'n nerfus iawn wrth i'r diwrnod agosau, yr hyn sy'n fy ysbrydoli yw'r elusen a'r achos y fydda i'n rhedeg er eu mwyn. On Sunday, October 2nd, I will be running the London Marathon. Although I''m very nervous, I'm inspired by the charity and cause I will be running on their behalf.
Yr elusen honno ydy MS Cymru, cymuned o bobl wych sy'n codi ymwybyddiaeth ac arian er mwyn datblygu mwy o driniaethau i wella Sglerosis Ymledol (Multiple Sclerosis).This charity is MS Society Wales, a fantastic community of people who raise awarness and money towards developing more treatments to help tackle Multiple Sclerosis.
Y llynedd, fe newidiodd bywyd un o fy ffrindiau gorau, Daf Wyn, pan gafodd ddiagnosis bod ganddo'r cyflwr MS. Daeth hyn fel sioc ofnadwy i ni fel ffrindiau iddo, ond wrthgwrs yn ddim i gymharu gyda'r pryder achoswyd i Daf a'i deulu. Last year, one of my closest friends, Daf Wyn, was diagnosed with MS, which came as a big shock to us as his friends, but of course nothing compared with the worry it caused Daf and his family.
Diolch i'r ymchwil a'r gwaith arbennig sydd wedi cael ei wneud yn ystod y blynyddoedd d'wethaf i sicrhau mwy o driniaethau i drin MS, cafodd Daf fynd am driniaeth dwys iawn oedd chwalu'r system imiwnedd a'n ei ddechrau eto i bob pwrpas.Yn hynod o ddewr, fe benderfynodd Daf gofnodi ei siwrne o'r cychwyn cynta pan gafodd ddiagnosis, i'r presennol, mewn rhaglen ddogfen ar S4C: Drych: Byw gyda MS (Linc isod)
https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p0cgbjq7/drych-byw-gyda-ms
Thanks to the research and breakthroughs made in the last few years, Daf received a robust course of treatment to reboot his immune system. Daf also very bravely decided to document his journey from the very beginning, which was shown in a documentary on S4C: Drych: Byw gyda MS (Link above)
Mae'n wych i weld bod Daf wedi mynd o nerth i nerth ers cael y driniaeth, a'i weld nol ar y sgrin fach yn cyflwyno Prynhawn Da a Heno. It's fantastic to see that Daf has gone from strength to strength since his treatment, and to see him back on screen presenting Heno and Prynhawn Da.
Arbennig hefyd, oedd dod i wybod yn y rhaglen ddogfen, bod 'na oleia' 3 triniaeth newydd i daclo MS wedi cael eu datblygu yn barod, yn y cyfnod byr ers i Daf gael diagnosis llynedd. Mae hynny yn ei hun yn dangos pa mor bwysig ydy elusen fel MS Cymru, er mwyn gallu sichrau bod mwy a mwy o'r triniaethau yma'n dod yn bosib.It's also fantastic that since last year alone, at lease 3 more treatments have been developed, which shows how important this charity is in order to support further research.
Yn fuan iawn ar ol clywed am yr hyn ddigwyddodd i Daf, roedd hi'n benderfyniad rhwydd mai tuag at MS Cymru roeddwn am godi arian wrth redeg Marathon Llundain. Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad a chefnogaeth hoffech ei roi er mwyn cefnogi'r achos.Diolch yn fawr! Very shortly after hearing Daf's news, it was a very easy decision for me to choose MS Cymru as the charity I wanted to support for this year's London Marathon. Any donation towards the cause the cause would be greatly appreciated. Thankyou very much.
Amdani!