Story
Mae Nain, Taid, Mamgu, a'r criw yn dringo'r Wyddfa i godi arian i Dravet Uk, yr elusen sy'n helpu Celyn.
Ar hyn o bryd mae Celyn yn dod yn ei blaen yn arbennig. Mae hi'n mynd i'r ysgol feithrin, yn nofio, yn mynd i ffysio, therapi siarad, therapi chwarae, ac yn cael amser bendigedig dwywaith yr wythnos mewn canolfan i bobl ar anghenion ychwanegol.
Mae Celyn wedi trio cyfuniadau gwahanol o dros ddwsin o feddyginiaethau yn ogystal a'r deiet Keto, ond mae hi'n parhau i gael ffitiau.
Y cam nesaf i Celyn yw therapi genynnau.
Mae Dravet UK yn cydweithio ag ymchwilwyr arloesol megis Stoke Therapeutics ac Epygenix sydd ar flaen y gad yn y maes technoleg gennynnau a dyn ni'n obeithol iawn y bydd hyn yn opsiwn i Celyn yn y dyfodol agos.
Noddwch y teulu i roi hwb iddyn nhw i gyrraedd copa'r Wyddfa. Gobeithio bydd y caffi ar agor!