During the summer of 2015, a group of young men from South Wales will be embarking upon an arduous journey around the beautiful country that is Wales. Considering Wales's mountainous terrain, this is no mean feat, especially due to the group's meagre bike-riding abilities.Thus, the journey, which spans just shy of 600 miles, will likely prove very challenging, if not impossible. However, having each chosen a charity that is important to us as individuals, we aim not only to complete this (very long) bike ride, but also to raise some money for our respective charities.
I have chosen to fundraise for the British Heart Foundation in memory of my grandfather, Ray Jenkin, who sadly passed away in November 2009. Being such a charismatic man whose personality effortlessly filled an average-sized room, losing him so suddenly came as an enormous blow to his family and friends. Now, nearly 6 years on, I have the opportunity to do something in his memory, and am very proud to be doing so.
Heart disease is prevalent in the UK and has been for quite some time. Any money that you give will contribute to enhancing the number of effective treatments available by funding research projects which will yield useful findings, ultimately bettering the quality and quantity of life of those living with heart disease.
Cheers!
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Yn ystod Haf 2015 fe fydd tri o gyfeillion o'r De yn ymgymryd â thaith feicio go galed o amgylch Cymru. O ystyried tirwedd amrywiol y wlad, nid ar chwarae bach y penderfynwyd ar y fenter arbennig hon, yn enwedig o gofio mai cymharol fach yw profiad beicio bob un o'r cwmni. Fe fydd y daith o tua 600 milltir yn sicr o fod yn her go iawn ond rydym yn barod i fentro er mwyn codi ymwybyddiaeth, a thipyn go lew o arian gobeithio, i helpu tair elusen o'n dewis personol.
Dwi wedi dewis codi arian ar gyfer ymchwil i glefyd y galon, er cof am fy Nhad-cu, Ray Jenkin, a fu farw yn sydyn iawn o drawiad ar y galon yn 2009. Roedd yn ddyn o bersonoliaeth hael â gwên hynaws ar ei wyneb bob amser. Roedd ganddo'r gallu i ysbrydoli ac roedd yn barod o hyd â gair o anogaeth. Nawr, chwe mlynedd yn ddiweddarach, dwi eisiau achub y cyfle i wneud rhywbeth pendant er cof amdano.
Mae clefyd y galon yn hynod gyffredin, ond dim ond gwaith ymchwil trylwyr fydd yn arwain at driniaethau newydd a mwy effeithiol. Canlyniad hyn i gyd fydd iechyd ac ansawdd bywyd gwell i nifer helaeth iawn o ddioddefwyr.
Diolch!