Story
Mae'n hanner tymor eto ac mae her arall o'n blaenau.
Dros hanner tymor Mis Mai - rydym yn cymryd rhan mewn her cerdded er mwyn codi arian i elusen Ambiwlans Awyr Cymru, yn cyd-fynd efo'i her - Cerdded dros Gymru 2021.
Rydym yn gosod her i bob disgybl i gerdded cyfanswm o 16 milltir dros yr hanner tymor gan ddechrau ar ddydd Sadwrn 29ain o Fai tan ddydd Sul y 6ed o Fehefin. Mae hyn yn golygu cerdded ar gyfartaledd 2 milltir y dydd.
Bydd Mr Steffan Davies a Mr Bryn Shepherd yn anelu i gwblhau'r her o gerdded 50 milltir mewn un diwrnod ar ddydd Sul y 30ain o Fai, gyda staff y ddwy ysgol yn ymuno ar hyd y daith i gerdded 16 neu 35 milltir.
Os ydych chi fel rhieni neu aelodau o'r gymuned eisiau herio'ch hun - pam na newch chi anelu i gerdded 35 neu 50 milltir dros yr wythnos?
Byddwn yn rhannu'r ddolen Strava er mwyn cofnodi eich teithiau yn ystod yr wythnos.
It's half term and we have another challenge ahead!
Over the May half term we are participating in a walking challenge to raise money for the Welsh Air Ambulance, coinciding with their challenge - Walk for Wales 2021.
We are setting a challenge to each pupil to walk 16 miles over the course of half term, starting on Saturday May 29th until Sunday June 6th. This is an average of 2 miles a day.
Mr Steffan Davies and Mr Bryn Shepherd will be aiming to complete the gruelling challenge of walking 50 miles in one day on Sunday May 30th, with members of staff from both schools joining them along the way to complete 16 or 35 miles.
If you as parents or members of the community want to challenge yourselves - why not aim to walk 35 or 50 miles during the course of the week?
We will be sharing the link to the Strava page to record your walks during the week.
Pob lwc a mwynhewch / Good luck and enjoy