Story
Ar ddydd Llun 25 Ionawr 2021 i gyd-fynd a Diwrnod Santes
Dwynwen yn ogystal â chofnodi 99 mlynedd ers i Syr Ifan ab Owen Edwards
gyhoeddi y byddai’n sefydlu Urdd Gobaith Cymru yng nghylchgrawn Cymru’r
Plant.
Ers rhai blynyddoedd bellach rydym yn dathlu’r achlysur drwy annog trigolion lleol i gefnogi drwy wisgo dillad ac addurno adeiladau yn goch, gwyn a gwyrdd.
Mae ymgyrch Cariad@Urdd yn cael ei ganolbwyntio ar ardaloedd ble cynhelir Eisteddfodau’r Urdd sydd ar y gweill yn Sir Ddinbych, Sir Gâr a Maldwyn. Mae’n gyfle i ailgynnau diddordeb yn lleol a bydd modd cyfrannu arian
at gronfeydd yr Eisteddfod drwy gyfrifon JustGiving.