Story
Dwi wedi ymuno gyda her Tarian Cymru - Ni Yw Y Byd i godi arian i bobl Yemen trwy fwyta dim ond reis a ffa am 5 diwrnod rhwng y 31/08 a'r 04/09.
Bysen ni'n gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad.
Bydd eich arian yn cefnogi gwaith Tearfund yn Yemen. Mae Tearfund yn gweithio i gefnogi teuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan wrthdaro wrth:
• sicrhau dŵr glân a chitiau hylendid i leihau risg o salwch a’r firws.
• darparu pecynnau bwyd brys
• darparu offer a hadau er mwyn i bobl tyfu llysiau eu hunain
Pam cefnogi Yemen?
Mae COVID 19 yn un argyfwng ymhlith nifer yn Yemen.
Er nad ydym yn gwybod yn bendant faint sydd yn dioddef neu farw o COVID19 yn Yemen mae’r FCO yn rhagdybio mai miliwn yw’r ffigwr. Mae dros 85,000 o blant wedi marw eisoes oherwydd salwch neu ddiffyg bwyd ers 2015.
Yn ôl Karen Soerensen, Pennaeth gwaith Tearfund yn Yemen:
“Mae Yemen yng nghanol Rhyfel Cartref. Mae’r economi o dan bwysau, prisiau bwyd yn codi a’r gwasanaeth iechyd mewn perygl o chwalu. Yn ogystal collodd nifer o bobl eu bywydau mewn llifogydd yn Ne Yemen."
Mae dros 24 miliwn o bobl angen cymorth brys sy’n cynnwys bwyd, dŵr glân a chitiau hylendid. Mae’r wlad ar fin wynebu newyn difrifol ac mae perygl i 9.9 miliwn farw oherwydd newyn. Yn ogystal, mae’r genedl yn wynebu un o’r argyfyngau colera gwaethaf y gwyddom amdano, gyda dros filiwn o achosion.
Diolch am eich cefnogaeth xxxx
-------------------------------------
I've joined Tarian Cymru - Ni Yw Y Byd's challenge to eat only rice and beans for 5 days to raise money for the people of Yemen through Tearfund!!
Yemen is home to the worlds worst humanitarian crisis today with over 24 million people in urgent need of humanitarian aid. The nation has been left devastated after nearly four years of conflict. Thousands of innocent civilians have died and three-quarters of Yemenis can't access safe water, food, healthcare or sanitation.
Tearfund's partners in Yemen are working tirelessly in very difficult circumstances to reach those suffering the most. They are providing safe drinking water and food for vulnerable households, and improving access to healthcare and hygiene advice to reduce the spread of deadly disease.Please support me as I raise money for this vital work. In the unlikely event that Tearfund raise more than is needed to support their partners in Yemen, your gift will be spent where the need is greatest.