Story
On 25th September 2022 our much longed-for child, Gruffydd Elis Cope was born after several years battling unexplained infertility and 4 rounds of IVF. Due to a placental abruption, Gruff was delivered via an emergency C-section at 36+4 weeks gestation. A moment that brought us so much joy and happiness was cruelly taken away as Gruff was born with no signs of life. The medics fought hard and managed to resuscitate Gruff, but the trauma left him with very severe heart problems, organ failure and minimal brain activity.
We are raising money for the amazing team at the Neonatal Intensive Care Unit (NICU) at University Hospital of Wales, Cardiff who worked incredibly hard to try to save him, but eventually reached a point where there was nothing more they could do. We’ve never seen a team more dedicated and determined to turn things around and felt Gruff received the highest level of care.
We will be forever grateful to the consultants, doctors, midwives and nurses for what they did to give us 60 precious hours with our baby boy. They allowed us to create memories with Gruff and gave us the opportunity to hold, wash, feed and read to him. A keepsake box was also donated which included kits for us to take prints of his hands and feet, bonding blankets, a book, teddies and bereavement support booklets for the journey ahead. In our short 3 days in hospital, we saw the excellence of the NHS and human nature at its best.
It's hard to understand why something so cruel as this can happen. Gruff was the centre of so much love and happiness. We have lost our son, our first-born child and all the hopes and dreams we had for him and our family. We will forever treasure the time we had with him and the memories we created. Gruff, you gave us hope and the greatest privilege of being your Mum and Dad. You will be in our hearts forever.
Gruff – our little miracle. Held for a moment, loved for a lifetime.
_____________________________
Ar y 25ain o Fedi 2022, ganed Gruffydd Elis Cope. Ein mab bach perffaith yr oeddem wedi dyheu amdano gyhyd ar ol blynyddoedd o frwydro anffrwythlondeb heb eglurhad, a 4 rownd o driniaeth IVF. Oherwydd gwaedlif y brych (placental abruption), ganed Gruff drwy Caesarean brys ar ôl 36+4 wythnos o feichiogrwydd. Cafodd Gruff ei eni heb unrhyw arwydd o fywyd ond fe frwydrodd y meddygon a llwyddo adfer curiad calon Gruff. Gadawodd hyn Gruff â phroblemau calon difrifol iawn, methiant organau ac ychydig iawn o weithgarwch ymennydd. Llenwodd ein calonnau gyda llawennydd a wnaethom byth ddychmygu na fydden ni’n medru dod â fo adref.
Rydym yn codi arian ar gyfer Uned Gofal Dwys a Chymorth i Rieni, Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Tra yn yr ysbyty, fe welsom y Gwasanaeth Iechyd a’r natur ddynol ar eu gorau. Gwnaeth y tîm anhygoel yn yr Uned Gofal Dwys weithio mor galed i drio achub bywyd Gruff. Welson ni erioed dîm mwy ymroddgar a phenderfynol i newid y sefyllfa a theimlwn ei fod wedi derbyn gofal o’r radd flaenaf. Er mor ddewr oedd Gruff ac iddo frwydro’n galed, yn anffodus doedd y rhagolygon ddim yn dda iddo a chyrhaeddom bwynt lle nad oedd mwy allai’r meddygon wneud drosto. Byddwn yn ddiolchgar am byth i’r holl staff edrychodd ar ôl Gruff ac ar ein holau ni tra yn yr ysbyty. Rhoeson nhw y fraint o ddeuddydd i ni gyda’n mab annwyl. Yn ei amser byr, cawsom gyfle i greu atgofion y byddwn yn eu trysori am weddill ein hoes – teimlo esmwythder ei groen, cusanu ei fochau bach, gafael ynddo, ei fwydo, ei lanhau, ei wisgo a darllen stori iddo. Rhoddwyd blwch atgofion i ni a oedd yn cynnwys offer i ni allu creu printiau o'i ddwylo a'i draed, blancedi bondio, llyfr stori i blant, tedis a llyfrynnau cymorth profedigaeth ar gyfer y daith o'n blaenau.
Mae’n anodd deall pam fod pethau more greulon â hyn yn digwydd. Roedd Gruff yn ganolbwynt gymaint o hapusrwydd a chariad. Rydym wedi colli ein mab, ein plentyn cyntaf, yr holl obeithion a breuddwyion oedd gennym iddo fo ac i ni fel teulu. Gruff, mi fydd yna gwestiynau’n parhau i ni am byth ond byddwn yn trysori yr atgofion a gawsom greu gyda thi. Rhoddaist obaith i ni a’r fraint fwyaf o fod yn fam a thad i ti. Mi fyddi yn ein calonnau am byth.
Gruff – ein gwyrth, cwsg mewn hedd.
Thanks for taking the time to visit our JustGiving page in memory of Gruff.
Donating through JustGiving is simple, fast and totally secure. Your details are safe with JustGiving - they'll never sell them on or send unwanted emails. Once you donate, they'll send your money directly to the charity. So it's the most efficient way to donate - saving time and cutting costs for the charity.