Story
Ganwyd Efan ar Fawrth 26, 2011. Pan oedd yn 5 mis oed ar ol misoedd o feddwl nad oedd ei iechyd yn "normal" cafodd ei roi ar ventilator yn Ysbyty Gwynedd ac aethpwyd ag ef i'r Ysbyty Plant ym Manceinion. Cafodd "open lung biopsy" ac yn dilyn hyn bu'n wael iawn. Treuliom gyfnod o 6 wythnos i fewn ac allan o'r Uned Ofal Ddwys a'r wardiau yn ceisio sefydlogi ei anadlu. Yn y cyfnod yma ond ychydig welyau oedd ar gael i rieni'r Uned Ofal Ddwys gyda'g oergell i gadw ychydig fwyd a meicrodon i goginio.
Daeth Efan adref yn gaeth i ocsigen ddydd a nos, cafodd ddiagnosis o ddiffyg syrffactant Protein-C. Bu'i iechyd yn weddol sefydlog am flwyddyn, roeddym yn mynd i Fanceinion unwaith bob mis am dridiau iddo gael dos cryf o steroids I.V ac yn achlysurol roedd yn wael a gorfod mynd i Fanceinion neu Ysbyty Gwynedd. Ond blwyddyn yn ddiweddarach dirywiodd anadlu Efan yn ddifrifol, bu yn yr Uned Ofal ddwys (PICU) am 4 mis. Daeth yn glir nad oedd ei ysgyfaint yn gweithio heb ventilator, y gobaith oedd iddo ddod adref ar y ventilator ond dirywiodd ei anadlu'n bellach a gan ei fod mor ifanc doedd ddim opsiwn o geisio am drawsblaniad yr ysgyfaint
Bu farw Efan ar Ragfyr 14eg 2012 yn 21 mis oed.
Erbyn 2021 roedd RonaldMcDonald House wedi'w adeiladu a chawsom fel teulu aros yno. Roedd y llofftydd yn en-suite a cheginoedd mawr efo popdy ac oergell/ rhewgelloedd, ystafelloedd teulu yno a staff chyfeillgar oedd bob amser yno i helpu.
Bum yn ffodus o gael ffrindiau a theulu ffeind yn casglu arian tra bu Efan yn wael a mi alluogodd hyn i ni noddi Ystafell Efan. Daeth y cyfnod noddi i ben, felly yn 2017 a 2018 penderfynnais "drio" rhedeg y Great Manchester Run (dipyn o sialens i rywun oedd erioed wedi rhedeg!) mi roeddwn yn ffodus iawn o gael criw o ffrindiau cefnogol a redodd efo fi. Mi ddaru'r 15 allu casglu digon o arian i noddi ystafell Efan am 9 mlynedd arall. Rydym am adael y cyfrif ar agor i allu ychwanegu pob hyn a hyn - Diolch am ddarllen a chefnogi, mae cofio am Efan a'i ddewrder di-gŵyn yn golygu llawer i ni x
Efan was born on March 26, 2011. It soon became apparent that his health wasn't "normal", he was finally diagnosed as having a rare lung disease called Surfactant deficiency protein-C. The diagnosis came after Efan was intubated and transferred from Ysbyty Gwynedd to Manchester. He had an open lung biopsy and 6 long weeks in and out of paediatric intensive care at Manchester Children's hospital. During this period parents had small rooms and bathroom facilities near PICU, eating facilities were very basic, we were however thankful as we lived so far away.
Efan was discharged needing oxygen 24/7, his health remained stable for a year, we would travel once monthly for a 3 day IV steroid course at Manchester and he would occasionally need hospitalisation at Ysbyty Gwynedd or Manchester when poorly. A year after his diagnosis it was clear that his lungs were beginning to fail, he was taken to PICU once again and ventilated, he had phases of seeming to improve so plans were in place to come home on a portable ventilator. We spent a period of a gruelling 4 months in PICU, but we were fortunate enough that RonaldMcDonaldHouse had opened and we had an en-suite room, fantastic kitchen facilities, washing machines, family rooms and friendly staff to help and support us.
On December 14, 2012 Efan's lungs failed, lung transplant wasn't an option for such a young child in the UK, Efan died peacefully holding our hands. During the time he was poorly, kind family and friends donated money, this enabled us to sponsor our room- Efan's Room at RonaldMcDonaldHouse. The sponsorship period has now come to an end, so I decided to challenge myself to running the Great Manchester Run in 2017 and 2018.(Quite a challenge for someone who has never run a race!) I am very fortunate to have supportive friends and 15 of us ran in 2017 and 2018 to raise the sponsorship renewal- we will keep the sponsorship account to donate every now and again. Thanks for reading Efan's story, your support means a lot x