I've raised £10000 to help the Manon Jones Foundation shine a light on the darkest parts of adolescent mental health issues by cycling the 250 mile Lon Las route.

In early March 2018 our eternally loved daughter and sister Manon, aged just 16 yrs and 1 week, lost her crippling battle with depression and died by suicide.A bright, talented and dynamic force of nature, Manon was caring, loving and passionate.
From the outside she had the world at her feet, but inside this insidious and silent killer was gnawing away at every feeling of positivity it could find. Yet even her darkest of times, she would add a smile and a ton of kindness to any occasion.Manon always tried to make the world a better place for all around her.
In her memory, we are setting up the Manon Jones Foundation, to help shine a light on a teenage mental health crisis and spread kindness over the harshest parts of modern life. It will hopefully offer support services to those young people suffering from mental illness as well as those who love them - their family and friends.
To help launch the foundation a group of those who knew Manon well - parents of her friends, her teachers from Ysgol Treganna and Ysgol Plasmawr, and neighbours - will be cycling the full length of Wales on a 250 mile fund-raising trip from Holyhead to Cardiff. The group will reach Cardiff Bay on Monday 27th where the Eisteddfod yr Urdd will be taking place - a fitting destination in memory of one who had so much joy competing at the festival.
All those taking part strongly believe that in Manon’s name we can fight teenage depression, its causes and its worst potential outcome. Please support us.
Yn gynnar ym mis Mawrth 2018, collodd ein merch a'n chwaer annwyl, Manon, yn 16 oed ac 1 wythnos oed, ei brwydr galed gydag iselder a bu farw trwy hunanladdiad.Roedd Manon yn gymeriad disglair, deinamig a thalentog, yn ofalgar, cariadus, angerddol a thosturiol.
O'r tu allan roedd fel petae’r byd wrth ei thraed, ond y tu mewn iddi roedd yna lofrudd tywyll a distaw yn amsugno pob teimlad o bositifrwydd y gallai ddod o hyd iddo. Eto, hyd yn oed yn y misoedd tywyllaf hynny, byddai Manon yn llwyddo i ddod â gwên a llond trol o garedigrwydd at unrhyw achlysur.Roedd Manon bob amser yn ceisio gwneud y byd yn lle gwell i bawb o'i chwmpas.
Er cof amdani, rydym am greu Sefydliad Manon Jones i helpu i daflu goleuni yn yr argyfwng iechyd meddwl tywyllaf a lledaenu caredigrwydd dros rannau caletaf bywyd. Ein gobaith yw y bydd yn cynnig gwasanaethau i gefnogi’r bobl ifanc hynny sy'n dioddef o salwch meddwl yn ogystal â'r rhai sy'n eu caru - eu teulu a'u ffrindiau.
Er mwyn helpu lansio'r Sefydliad bydd criw o bobl a oedd yn adnabod Manon yn dda - rhieni ei ffrindiau, ei hathrawon o Ysgol Treganna ac Ysgol Plasmawr, a chymdogion - yn teithio drwy Gymru ar daith codi arian 250 milltir o Gaergybi i Gaerdydd. Byddant yn cyrraedd Bae Caerdydd ddydd Llun Mai 27 lle bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal - cyrchfan addas er cof am un a gafodd gymaint o lawenydd yn cystadlu ynddynt.
Mae pawb sy'n cymryd rhan yn credu'n gryf y gallwn, yn enw Manon, frwydro yn erbyn iselder yn yr arddegau, ei achosion a'i ganlyniad potensial gwaethaf.
Gofynnwn yn garedig i chi ein cefnogi ni os gwelwch yn dda.