I've raised £8000 to adnewyddu Gardd y Pentre Llangrannog renovate the Llangrannog Village Garden

Organised by Kathryn Dawes
£4,200
raised of £8,000 target by
Donations cannot currently be made to this page
Llangrannog, Ceredigion ·Gardens and environment

Story

Diolch o galon i'r rhai sydd eisoes wedi rhoi mor hael i'n cronfa. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar yr ardd, gyda’r waliau cerrig gwreiddiol hardd wedi’u trwsio, ‘penau ceffylau’ (cerrig lleol mawr) yn eu lle a’r gwaith ar y llawr yn dechrau. Rydym bellach yn defnyddio llechi Gogledd Cymru ar gyfer y ffiniau barddoniaeth, sy’n arbed arian.

Gyda chynnydd ym mhopeth o ddeunyddiau i gostau dosbarthu, rydym yn wirioneddol obeithio cyrraedd ein targed o £8,000. Rhaid inni hefyd ailadeiladu’r grisiau i’r ardd isaf fel eu bod yn fwy hygyrch a diogel nag o’r blaen; dyfynnwyd hyn yn £1,000.

Darllenwch ymlaen am y stori lawn a diweddariadau pellach ar waelod y dudalen.

Many, many thanks to those who have already given so generously to our fund. Work is going well on the garden, with the beautiful original stone walls mended, ‘horses heads’ (large local stones) in place and the work on the floor beginning. We are now using North Wales slate for the poetry borders, which saves money.

With increases in everything from materials to delivery costs, we are really hoping to hit our £8,000 target. We must also rebuild the steps to the lower garden so they are more accessible and safe than before; this has been quoted at £1,000.

Please read on for the full story and futher updates at the bottom of the page.

Mae Pwyllgor Lles Llangrannog wedi dechrau ar y gwaith o adnewyddu Gardd y Pentre sydd wedi’i lleoli rhwng capel Bancyfelin a rhaeadr Y Gerwn.

Dyn ni eisoes wedi codi dros £2,000 ac wedi derbyn grant gan Gyngor Sir Ceredigion i gefnogi’r gwaith. Ein nod yw codi £8000 a’n gobaith yw cael eich help chi i wireddu’r freuddwyd hon.

Cafodd cynllun yr ardd ei greu gan Gail Robinson, person lleol sy’n arbenigo mewn gerddi. Roedd hyn yn dilyn ymgynghoriad ymhlith aelodau o’r gymuned. Teifi Landscaping sy’n gwneud y gwaith. Bydd llinellau o farddoniaeth Cranogwen yn cael eu hymgorffori yn y llawr carreg newydd. Yn y cynllun hefyd, gallwch weld mynedfa newydd mwy diogel a lleoedd i blannu planhigion o bob math.

Crewyd yr ardd yn 19…., ac yn ystod y blynyddoedd diwetha mae’r ardd wedi cael ei chynnal gan nifer o arddwyr ac adeiladwyr lleol. Bydd y cynllun newydd yn cadw rhai agweddau o’r ardd wreiddiol fel y waliau llechi ond bydd y datblygiad newydd yn lleoliad perffaith ar gyfer cerflun Cranogwen, ein harwres leol. Dyn ni’n gweithio mewn cydweithrediad â Thîm Prosiect Cymunedol Cranogwen a Monumental Welsh Women.

Y gobaith hefyd yw casglu digon o arian i ddarparu byrddau gwybodaeth am fywyd a gwaith Cranogwen a hefyd dathlu gwaith caled nifer o bentrefwyr yn yr ardd dros y blynyddoedd.

Llangrannog Welfare Committee have begun work on renovating the beloved Village Garden, located between Banc-y-Felin chapel and Y Gerwn waterfall.

We have already raised over £2,000 and have won a grant from Ceredigion County Council to support the work. We aim to raise another £8,000 and hope you can help us realise this dream.

The garden design shown was created by local garden expert Gail Robinson following consultation with community members. Work is being done by Teifi Landscaping. The design incorporates some of Cranogwen’s poetry, which will be set into the new stone floor. The plan shows a new, safer entrance, new planters and space for hardy, annual plants.

Built in the early 1900s, the garden has been further developed and maintained by successive local gardeners and builders. The new design aims to preserve aspects of the garden such as the original slate walls, and build on it to provide a perfect site for a statue of Cranogwen, our local heroine. We are working in partnership with the Cranogwen Community Monument team and Monumental Welsh Women to bring this idea to life.

We also hope to have enough money to provide information boards to illustrate Cranogwen’s life and importance, as well as celebrate the hard work of many villagers in the garden over the years.

Help Kathryn Dawes

Sharing this page with your friends could help raise up to 3x more in donations

You can also help by sharing this link on:

About fundraiser

Kathryn Dawes
Organiser

Donation summary

Total
£4,200.00