Story
Ar y 5ed o Ebrill bydd criw o aelodau a ffrindiau C.Ff.I Ceredigion yn cerdded taith o 21milltir o Lanbed i Aberaeron i godi arian tuag at Gronfa Er Cof am Geraint Hatcher, C.Ff.I Ceredigion a'ch clwb lleol. Bydd arian y gronfa yn mynd at gael adnoddau newydd yn Uned Brys Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin lle treuliodd Geraint ei wythnosau olaf. Bydd unrhyw gyfraniad tuag at yr her yma yn cael ei werthfawrogi yn fawr.
Os ydych am gyfrannu a noddi- gallwch enwi y clwb rydych yn cynrichioli wrth noddi.
Diolchwn yn fawr i chi am eich cefnogaeth a gobeithiwn am ddiwrnod da llawn hwyl ar hyd y daith.