Ysgol Gymraeg Llundain is at risk - Cefnogwch ddyfodol ein hysgol!

Ysgol Gymraeg Llundain is at risk - Help London’s Welsh children keep their heritage and language alive and ensure future generations can benefit from this unique and special school! Cefnogwch ni heddiw i’n helpu ni i achub yr ysgol unigryw hon!

£1,955
raised

Story

We are fighting to save Ysgol Gymraeg Llundain, the only Welsh-language school in England. Without support, this vital cultural and educational institution could close next year.

💛 Please donate today to help us save this unique and special school!💛

Rydyn ni’n gweithio’n galed i achub Ysgol Gymraeg Llundain, yr unig ysgol Gymraeg yn Lloegr. Heb gefnogaeth, gallai’r sefydliad addysgol a diwylliannol hollbwysig hwn gau y flwyddyn nesaf.

💚 Cyfrannwch heddiw i’n helpu i achub yr ysgol unigryw a phwysig hon!💚

Why we need your support

For nearly 70 years, Ysgol Gymraeg Llundain has been a home for Welsh language and culture in the heart of London. It has given generations of children the chance to become bilingual, keeping the language alive outside Wales, strengthening their connection with their heritage, and instilling pride in their identity.

But today, our school is in crisis:

🦠As a result of COVID, pupil numbers fell as many Welsh families moved back to Wales.

📉We now have only 12 pupils, leaving us operating at a financial loss.

🌱Our thriving playgroup, Miri Mawr, with around 20 babies and toddlers, proves there’s a future — but these children won’t be of school age for another 1–3 years.

We don’t need permanent additional funding — we need help to bridge the gap, keeping the school open until our next generation of pupils can enrol.

________________________________________

How much do we need to raise?

To ‘keep the lights on’, we need to cover an immediate shortfall of £2,500 per month – or £30,000 per year. This is the minimum required to keep the school running until pupil numbers increase. This fundraiser is about bridging the gap over the next couple of years.

Your donations will go towards:

🏫Keeping the school open – covering rent, staff salaries, and essential running costs.

📚Providing a high-quality Welsh-medium education for children in London.

🌟Securing the future of the school until new pupils are enrolled.

If we manage to raise more than our core target, additional funds will go towards much needed modernisation:

✅ Upgrading classrooms and learning resources

✅ Improving the outdoor play area for pupils

✅ General upkeep of the building (e.g. new carpets, painting)

Every penny raised will go towards securing the school’s future, and ensuring it continues to thrive for years to come.

________________________________________

There is hope – But we need your help

The future of London Welsh School is not lost—but we need your support to secure it.

✅ A new generation is waiting. Our playgroup, Miri Mawr, has around 20 babies and toddlers, many of whom could go on to enrol in the school over the next 1–3 years. Furthermore, this group has grown from 5 families to 15 families in just 6 months, since we have been working hard to promote the school.

✅ Not everyone knows we exist. Some Welsh-speaking families in London have only discovered our school too late—when their children were already enrolled in mainstream schools. You can help by spreading the word to ensure that more families know about this unique opportunity for bilingual education in London.

✅ Every new pupil reduces the financial gap. Right now, we need £2,500 per month to keep the school running, but if we recruit more pupils, this shortfall will decrease. Growing our student numbers means less reliance on fundraising and a more secure long-term future for the school.

With your support—through donations and helping us reach new families—we can ensure that Welsh-medium education in London not only survives but thrives for generations to come.

________________________________________

Donate Today

Every contribution, big or small, will help keep the school open and ensure future generations have the opportunity to speak Welsh, be proud, and feel connected to their heritage.

📢 If we close now, Welsh-language education in London will be lost forever.

💛 Please donate today — and be part of saving the future of this unique school.

Diolch yn fawr – Thank you for your support!

🟢🟡🟢🟡🟢🟡🟢🟡🟢🟡🟢🟡🟢🟡🟢🟡🟢

Pam mae angen eich cefnogaeth

Am bron i 70 mlynedd, mae Ysgol Gymraeg Llundain wedi bod yn gartref i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yng nghanol Llundain. Mae wedi rhoi cyfle i genedlaethau o blant ddod yn ddwyieithog, gan gadw’r iaith yn fyw y tu allan i Gymru, cryfhau eu cysylltiad â’u treftadaeth, a meithrin balchder yn eu hunaniaeth.

Ond heddiw, mae ein hysgol mewn argyfwng:

🦠O ganlyniad i COVID, gostyngodd niferoedd y disgyblion wrth i lawer o deuluoedd Cymraeg symud yn ôl i Gymru.

📉Dim ond 12 o ddisgyblion sydd gennym ar hyn o bryd, gan ein gadael yn gweithredu ar golled ariannol.

🌱Mae ein cylch chwarae ffyniannus, Miri Mawr, gyda thua 20 o fabanod a phlant bach, yn profi bod dyfodol i’r ysgol – ond ni fydd y plant hyn yn cyrraedd oedran ysgol am 1–3 blynedd arall.

Nid ydym angen cyllid ychwanegol yn barhaol – ond mae angen help arnom i bontio’r bwlch, gan gadw’r ysgol ar agor nes bod ein cenhedlaeth nesaf o ddisgyblion yn gallu cofrestru.

________________________________________

Faint sydd angen ei godi?

Er mwyn cadw’r drysau ar agor, mae angen i ni dalu diffyg ariannol o £2,500 y mis – neu £30,000 y flwyddyn. Dyma’r isafswm sydd ei angen i gadw’r ysgol i fynd nes i niferoedd y disgyblion gynyddu. Mae’r ymgyrch hon yn ymwneud â phontio’r bwlch dros y blynyddoedd nesaf.

Bydd eich rhoddion yn mynd tuag at:

🏫Cadw’r ysgol ar agor – gan dalu rhent, cyflogau staff, a chostau hanfodol.

📚Darparu addysg cyfrwng Cymraeg o safon uchel i blant yn Llundain.

🌟 Diogelu dyfodol yr ysgol nes bod disgyblion newydd yn cofrestru.

Os ydym yn llwyddo i godi mwy na’n targed craidd, bydd unrhyw arian ychwanegol yn mynd tuag at foderneiddio’r ysgol:

✅ Uwchraddio’r ystafelloedd dosbarth a’r adnoddau dysgu

✅ Gwella’r ardal chwarae awyr agored i ddisgyblion

✅ Cynnal a chadw cyffredinol yr adeilad (e.e. carpedi newydd, paentio)

Bydd pob ceiniog a godir yn mynd tuag at sicrhau dyfodol yr ysgol ac at ei gwneud yn gryfach ar gyfer cenedlaethau i ddod.

________________________________________

Mae gobaith – Ond mae angen eich cymorth

Nid yw dyfodol Ysgol Gymraeg Llundain wedi’i golli – ond mae angen eich cefnogaeth arnom i’w sicrhau.

✅ Mae cenhedlaeth newydd yn aros. Mae ein cylch chwarae, Miri Mawr, gyda thua 20 o fabanod a phlant bach, llawer ohonynt yn debygol o fynd ymlaen i’r ysgol dros y 1–3 blynedd nesaf. Yn wir, mae’r grŵp hwn wedi tyfu o 5 teulu i 15 teulu mewn dim ond 6 mis, wrth i ni weithio’n galed i hyrwyddo’r ysgol.

✅ Nid yw pawb yn gwybod ein bod yn bodoli. Mae rhai teuluoedd Cymraeg eu hiaith yn Llundain wedi darganfod yr ysgol yn rhy hwyr – pan oedd eu plant eisoes wedi’u cofrestru mewn ysgolion prif ffrwd. Gallwch helpu drwy rannu’r neges, er mwyn sicrhau bod mwy o deuluoedd yn gwybod am y cyfle unigryw hwn i gael addysg ddwyieithog yn Llundain.

✅ Mae pob disgybl newydd yn lleihau’r bwlch ariannol. Ar hyn o bryd, mae angen £2,500 y mis arnom i gadw’r ysgol i fynd, ond os gallwn recriwtio mwy o ddisgyblion, bydd y diffyg hwn yn lleihau. Po fwyaf o blant sy’n ymuno, y lleiaf o ddibyniaeth fydd ar godi arian – gan sicrhau dyfodol mwy sefydlog i’r ysgol yn y tymor hir.

Gyda’ch cefnogaeth – drwy gyfrannu ac ein helpu i gyrraedd mwy o deuluoedd – gallwn sicrhau bod addysg Gymraeg yn Llundain nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu am genedlaethau i ddod.

________________________________________

Cyfrannwch Heddiw

Bydd pob cyfraniad, mawr neu fach, yn helpu i gadw’r ysgol ar agor ac yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael y cyfle i siarad Cymraeg, i deimlo’n falch, ac i gadw eu cysylltiad â’u treftadaeth.

📢 Os ydym yn cau nawr, bydd addysg Gymraeg yn Llundain yn cael ei cholli am byth.

💛 Cyfrannwch heddiw – a helpwch i achub dyfodol yr ysgol unigryw hon.

Diolch o galon!

Help Ysgol Gymraeg Llundain

Sharing this page with your friends could help raise up to 3x more in donations

You can also help by sharing this link on

Donation summary

Total
£1,955.00
Online
£1,955.00
Offline
£0.00
Direct
£1,955.00
Fundraisers
£0.00

Charities pay a small fee for our service. Learn more about fees