We did it!

Our campaign is now complete. 10 supporters helped us raise £525.00

Visit the charity's profile
Closed 30/06/2024
Christian Aid

Wythnos Cymorth Cristnogol 2024

Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol (12–18 Mai) eleni, byddwn yn tynnu sylw at ein gwaith yn Burundi, un o wledydd tlotaf y byd yn ariannol, ac un o'r gwledydd sy’n lleiaf parod i frwydro yn erbyn effeithiau’r argyfwng hinsawdd.
£525
raised
Donations cannot currently be made to this page
Closed on 30/06/2024
RCN 1105851, SC039150

Be a fundraiser

The campaign has now expired but it's not too late to support this charity.

Visit the charity's profile

Story

Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol (12–18 Mai) eleni, byddwn yn tynnu sylw at ein gwaith yn Burundi, un o wledydd tlotaf y byd yn ariannol, ac un o'r gwledydd sy’n lleiaf parod i frwydro yn erbyn effeithiau’r argyfwng hinsawdd.

Gydag economi fregus sy’n seiliedig ar amaethyddiaeth, mae pobl Burundi mewn sefyllfa ansicr iawn yn wyneb sychder, llifogydd a thirlithriadau.

Mae'r argyfwng costau byw byd-eang wedi dwysáu'r heriau sy'n wynebu teuluoedd yno. Mae 70% a mwy o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi, a 52% o blant yn dioddef diffyg maeth cronig.

Gwyddom na allwn ddatrys pob problem sy'n wynebu ein cymdogion yn Burundi, ond gyda'n cymorth ni, mae mwy o deuluoedd yn creu incwm dibynadwy ac amrywiol sy'n cynnig sicrwydd bwyd iddyn nhw, iechyd gwell, cartrefi mwy diogel, mwy o wytnwch a gobaith.

‘Pan welwn ni Cymorth Cristnogol, rydyn ni'n cael cysur ac yn teimlo nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain. Rydyn ni'n gweld bod gennym ni bobl i'n cefnogi ni.’ Aline Nibogora.

Darllenwch fwy o hanes Aline isod am sut y llwyddodd i wthio'n ôl o’r dibyn a goroesi, diolch i ychydig bach o help llaw gan Cymorth Cristnogol.

Stori Aline

Roedd Aline wedi profi tlodi enbyd - ar ôl sawl blwyddyn mewn priodas dreisgar, priododd ei gŵr fenyw arall, gan orfodi Aline i ffoi heb ei chwe phlentyn. Gorfodwyd hi i gysgu ar strydoedd Burundi. Heb gartref, gofal iechyd na diogelwch, gwthiwyd Aline i ymylon eithaf tlodi.

'Ro'n i'n crwydro'r strydoedd, yn gofyn i unrhyw un am le i gysgu. Byddai'r rhai a fyddai’n dangos caredigrwydd yn gadael i mi aros am ddeuddydd neu dri, ond roedd yn anodd. Byddai pobl yn fy sarhau i ac yn fy nhrin â dirmyg. Roedden nhw wedi anghofio fy mod i'n ddynol. Roedd yn dorcalonnus.’

Ond fe newidiodd bywyd Aline ar ôl cwrdd â Cymorth Cristnogol. Fe wnaethom ni ddarparu hyfforddiant a chymorth hanfodol, oedd yn golygu y gallai Aline ddechrau busnes bach yn gwerthu afocados a chnau daear yn lleol. Mae hyn wedi'i helpu i brynu a thyfu bwyd maethlon, adeiladu cartref iddi hi ei hun, a chael ei phlant yn ôl.

Roedd Aline yn benderfynol o wthio’n ôl yn erbyn annynoldeb tlodi, gyda gobaith, ffydd a chariad tuag at ei phlant yn ei gyrru ymlaen. Llwyddodd i wneud hyn er gwaethaf pawb a phopeth, gyda rhywfaint o help llaw gan Cymorth Cristnogol.

Allwch chi helpu rhywun fel Aline i wthio'n ôl yn erbyn annynoldeb tlodi yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni?

About the charity

Christian Aid

Verified by JustGiving

RCN 1105851, SC039150
We work with churches, individuals and local organisations in communities worldwide, supporting people of all faiths and none to rise out of poverty. We help people survive disasters, deal with the impact of climate change, find shelter from conflict and have a voice in their communities.

Donation summary

Total raised
£524.97
+ £62.50 Gift Aid
Online donations
£267.00
Offline donations
£0.00
Direct donations
£0.00
Donations via fundraisers
£524.97

* Charities pay a small fee for our service. Find out how much it is and what we do for it.