Story
O amgylch y byd mae ymdrech y cymunedau tlotaf i oroesi yn wyneb anghyfiawnder yn cael cymorth gan bartneriaid Cymorth Cristnogol. Gwelwn un engraifft o hyn yng ngwlad Zimbabwe, yn neheubarth Affrica.
Rhan allweddol o waith yr elusen yno yw grymuso cymunedau lleol i allu goroesi yn wyneb tywydd anffafriol gan eu hyfforddi mewn technegau ffermio sydd yn fwy cydnaws â’r hinsawdd sy’n newid.
Mae arall gyfeirio hefyd yn rhan allweddol o rymuso cymunedau ac felly mae merched yn dysgu sgiliau newydd fydd yn eu gwneud yn fwy gwydn yn wyneb siociau tywydd.