Clwb Ifor Bach

Clwb Ifor Bach Redevelopment

We are fundraising to redevelop Clwb Ifor Bach, Wales's leading grassroots music venue, and the home for new Welsh music in the capital for the past 40 years. Rydym yn codi arian i ail-ddatblygu Clwb Ifor Bach.
£2,520
raised
RCN 1186136

Story

Clwb Ifor Bach is Wales’s leading, most prolific grassroots music venue and promoter. 

After 40 iconic years in the music industry, we want to secure the future of grassroots music in Wales, by under-going a huge redevelopment of our venue. Our vision is to take over the derelict building next door to Clwb Ifor Bach and join it with our existing premises on Womanby Street, to transform the space into a fully accessible multi-room venue capable of holding up to 1,000 people across all floors. 

Plans include a new 500-capacity space that fills a long-standing gap in in the city’s current live music provision, and a 200-capacity room to ensure continued support for emerging musicians during the early stages of their artistic development.

We want to see Clwb redeveloped into an accessible venue; able to not only hold larger-scale performances and events, but also create more opportunities in the industry for musicians, audiences and the community - so even more people can engage with music in Wales. 

WE NEED YOUR HELP

2 years away from starting the build, we’re at a critical point in time. The planning proposals have been submitted to Cardiff Council, and we’re taking the first steps to make our vision a reality. 

However, there is still a long journey ahead, especially considering how inflationary pressures have impacted the cost since the initial concept designs were announced in early 2019. 

To make the new building and re-fit possible, Clwb is calling for its supporters to get behind the project. We have 18 months to raise the necessary funding and will be exploring all potential avenues of support during this time to move the project forward.

Clwb have been at the forefront of Welsh culture in Cardiff for the past 40 years. This huge project will allow us to broaden the scope of our cultural offering and give us the resilience to continue growing for many decades to come.

We have the vision, the ambition, and the skills - what we now need is to raise the funds to deliver our plans and provide a new home for music in Wales.

-----

Clwb Ifor Bach yw’r hyrwyddwr a’r lleoliad cerddoriaeth llawr gwlad mwyaf toreithiog a blaenllaw yng Nghymru. 

Ar ôl deugain mlynedd eiconig yn y diwydiant cerddoriaeth, rydyn ni am sicrhau dyfodol cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru, drwy gynnal ailddatblygiad enfawr yn ein lleoliad. Ein gweledigaeth yw cymryd yr adeilad adfeiliedig drws nesaf i Glwb Ifor Bach drosodd a’i uno â’n safle presennol ar Stryd Womanby, i drawsnewid y lle i fod yn lleoliad aml-ystafell cwbl hygyrch sy’n gallu dal hyd at 1,000 o bobl ar draws pob llawr. 

Mae’r cynlluniau’n cynnwys gofod â chapasiti o 500 sy’n llenwi hen fwlch yn narpariaeth cerddoriaeth fyw bresennol y brifddinas, ac ystafell â chapasiti o 200, i sicrhau cymorth parhaus ar gyfer cerddorion newydd yn ystod camau cynnar eu datblygiad artistig.

Rydyn ni am i Glwb Ifor gael ei ailddatblygu i fod yn lleoliad hygyrch; gyda’r gallu nid yn unig i gynnal perfformiadau a digwyddiadau graddfa fwy, ond hefyd creu mwy o gyfleoedd yn y diwydiant ar gyfer cerddorion, cynulleidfaoedd a’r gymuned - fel bod modd i fwy fyth o bobl fwynhau cerddoriaeth yng Nghymru. 

MAE ANGEN EICH CYMORTH CHI ARNON NI

Gydag ond dwy flynedd tan i ni ddechrau ar y gwaith adeiladu, rydyn ni ar gam tyngedfennol. Rydyn ni wedi cyflwyno’r cais cynllunio i Gyngor Caerdydd, ac rydyn ni’n cymryd y camau cyntaf i wireddu ein gweledigaeth. 

Ond, mae taith hir o’n blaenau, yn enwedig wrth ystyried pwysau chwyddiant ac effaith hyn ar y gost ers i’r dyluniadau cysyniadol cyntaf gael eu cyhoeddi ddechrau 2019. 

Er mwyn gwneud yr adeilad newydd a’r ailddatblygiad yn bosib, mae Clwb Ifor yn galw ar ei gefnogwyr i gefnogi’r prosiect yma. Mae ganddon ni ddeunaw mis i godi’r arian sydd ei angen, a byddwn ni’n archwilio pob llwybr cymorth posib yn ystod y cyfnod yma er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.

Mae Clwb Ifor wedi bod ar flaen y gad o ran diwylliant Cymru yng Nghaerdydd ers deugain mlynedd. Bydd y prosiect enfawr yma’n caniatáu i ni ehangu cwmpas ein darpariaeth ddiwylliannol a rhoi’r gwytnwch i ni barhau i dyfu am ddegawdau i ddod.

Mae ganddon ni’r weledigaeth, yr uchelgais, a’r sgiliau - yr hyn sydd ei angen nawr yw codi’r arian i gyflawni ein cynlluniau a chynnig cartref newydd i gerddoriaeth yng Nghymru.

About the charity

Clwb Ifor Bach

Verified by JustGiving

RCN 1186136
We’ve been at forefront of Welsh culture for over 40 years, and we’ re proud to be Wales’s leading grassroots music venue. We don’t just promote live music, our work now goes beyond to include audience, artist, skills and community development.

Donation summary

Total raised
£2,520.00
Online donations
£2,520.00
Offline donations
£0.00
Direct donations
£2,520.00
Donations via fundraisers
£0.00

* Charities pay a small fee for our service. Find out how much it is and what we do for it.