Story
Hi, my name is Paola. I'm a mum, a daughter and a UK manufacturer.
As COVID-19 is starting to make itself felt amongst our community I
am concerned, but I’m determined to be positive.
I want to change the rhetoric. Let’s focus on ‘many loved ones CAN be
saved’ rather than ‘many loved ones will be lost’.
But we can only do this with proactive and urgent action. Now.
Whilst I am Welsh, I am originally from Italy. I have many loved ones still in the affected areas.
Through them, I have witnessed every day what is happening on the ground in Italy as the Coronavirus takes hold. One thing is incredibly
clear: the pressure on the medical staff and facilities is huge.
Whilst most of us will experience something very mild, for many this will be much more serious. A lot of us will get ill – and a lot of us will need
treating. Either directly or indirectly, many of us will need the help of
our amazing NHS and medical staff.
In Italy, before the Coronavirus pandemic began, they already had twice as many intensive care beds as the UK. Even these have not been enough for their smaller population. Ventilators have been in short supply. Doctors and nurses have been incredibly stretched.
Here in North Wales, we MUST prepare. It’s not IF it happens, it’s WHEN.
For our NHS to help us – WE will need to help them.
Let’s give the frontline NHS Team the help they will need. We need to act. We cannot wait until it is too late.
This is where you come in.
Whilst the government is putting huge resources into its COVID-19 plan, in order to make sure OUR local hospital can give the very best care, WE need to raise money.
Let’s help Ysbyty Gwynedd’s Intensive Care Team now, so they have the additional equipment and other extra resources they feel their patients will benefit from when they need them the most.
The money raised through this appeal will go directly to Ysbyty Gwynedd’s Intensive Care Unit’s Fund. The Doctors and Nurses - local professionals who understand what is most needed for our local communities, and who are aware of what the NHS is already doing - will decide how the money raised will be used to best benefit the most vulnerable in our local communities in North West Wales.
The monies you give will not replace statutory funding - the money raised through this appeal will be used to fund ADDITIONAL items that go over and above what the NHS is providing.
Your donation could help save the life of a friend or a neighbour, and it will definitely help reduce the strain and improve the morale of a healthcare workforce that will be put under even more pressure than it already is.
PLEASE give generously and please spread the word.
We have a small window of opportunity to make a real difference –
let’s use this. Please help.
#togetherletsbeatthis #itwillallbeok #YGagainstCV #supportyourlocalNHS #spreadlovenotcovid19
__
Helo, fy enw i yw Paola. Rwy'n fam, yn ferch ac yn gweithio yn y sector gweithgynhyrchu yn y DU.
Wrth i Covid19 ddod yn fwy amlwg yn ein cymunedau, rydw i'n dechrau pryderu, ond yn benderfynol o aros yn bositif.
Rydw i eisiau herio a newid y neges. Beth am ganolbwyntio ar "gallwn achub nifer o'n hanwyliaid" yn hytrach na "byddwn yn colli nifer o'n hanwyliaid".
Ond bydd rhaid gwneud hynny drwy gymryd camau rhagweithiol brys a hynny yn gyflym. Heddiw.
Rydw i’n Gymraes, ond yn hanu yn wreiddiol o'r Eidal gyda llawer o fy anwyliaid i’n dal i fod yn yr ardaloedd hynny sydd wedi eu heffeithio.
Trwyddyn nhw rydw i wedi bod yn dyst bob dydd i'r hyn sy’n digwydd yno ac fel mae'r Coronavirus yn lledaenu a phobl yn cael eu taro'n wael mae un peth yn glir iawn, mae’r pwysau ar staff a chyfleusterau meddygol yn anferth.
Tra bydd nifer fawr ohonom ni’n dioddef symptomau ysgafn iawn, i lawer bydd y salwch yn fwy difrifol. Bydd llawer hefyd yn mynd yn sâl ac angen triniaeth. Yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol bydd nifer fawr ohonom angen gofal ein Gwasanaeth Iechyd arbennig a'i staff meddygol.
Cyn Coronavirus, roedd gan yr Eidal ddwywaith gymaint o welyau gofal dwys â'r DU, a doedd hyd yn oed hynny ddim yn ddigon i’w poblogaeth nhw sy’n llai. Mae peiriannau anadlu yn brin, a doctoriaid a nyrsys yn cael eu gwthio i'r eithaf.
Yma yng ngogledd Cymru mae’n RHAID i ni fod yn barod, nid OS bydd yn digwydd, ond PAN fydd yn digwydd.
Er mwyn i’n gwasanaeth iechyd ein helpu ni - rhaid i NI eu helpu nhw.
Dewch i ni roi pob cymorth i staff rheng flaen yr NHS. Rhaid i ni weithredu, ni allwn aros nes ei bod hi’n rhy hwyr.
Dyma sut allwch chi helpu. Tra bod y llywodraeth yn rhoi adnoddau anferth i mewn i'w gynllun COVID-19, er mwyn sicrhau bod EIN hysbyty lleol ni yn gallu rhoi’r gofal gorau posib, rhaid i ni godi arian.
Rhaid i ni helpu Tîm Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd fel y byddent yn gallu cael offer ychwanegol a’r adnoddau maen nhw’n teimlo y bydd cleifion eu hangen mor fuan â phosib.
Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd yn syth i gronfa Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd. Y doctoriaid a’r nyrsys – y rhai sy’n deall anghenion ein cymunedau lleol ac sy’n deall beth mae'r NHS yn ei wneud yn barod – fydd yn penderfynu sut mae'r arian yn cael ei wario er budd y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau yng ngogledd orllewin Cymru.
Ni fydd yr arian rydych chi’n rhoi yn cael ei ddefnyddio yn lle arian statudol. Bydd yr arian sy’n cael ei godi drwy'r apêl yma'n mynd i brynu eitemau YCHWANEGOL y tu hwnt i’r hyn mae'r NHS yn gallu ei ddarparu.
Gall eich rhodd chi arwain at arbed bywyd ffrind neu gymydog, a bydd yn sicr o arwain at leihau'r straen a chodi ysbryd y gweithlu sy’n wynebu pwysau fydd hyd yn oed yn fwy na’r pwysau sydd arnynt yn barod.
Rhowch yn hael OS GWELWCH YN DDA a rhannwch y neges.
Mae gennym gyfle mewn cyfnod byr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol – gadewch i ni wneud yn fawr o’r cyfle. Plîs helpwch.
#gallwndrechugydangilydd #byddpopethyniawn #YGynerbynCV #cefnogwcheichNHSlleol #lledaenucariadnidcovid19