Er bod y clwb wedi bodoli ers 3 blynedd, nid oes ganddo ddigon o adnoddau. Fe wnaeth Kiri Pritchard Maclean (Y comedi wraig enwog) ai chydweithwyr ein helpu i godi arian i gyflogi 1 aelod o staff am 1 diwrnod yr wythnos drwy gynnal noson gomedi lwyddiannus a drefnwyd yn Pontio, Bangor y byddwn yn ddiolchgar am byth iddi am hynny. Fe wnaeth hyn ein galluogi i weithio gyda'r bobl ifanc ar gais loteri. Yna roeddem yn ffodus i dderbyn cyllid o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gyflogi aelod o staff a fydd yn ein helpu i ddatblygu clybiau mewn ardaloedd eraill fel nad oes rhaid i bobl ifanc deithio 50 milltir i'w clwb agosaf.
Ni allwn or-bwysleisio pwysigrwydd y clwb i'r bobl ifanc o'r gymuned LGBTQ + - mae'n gwneud byd o wahaniaeth i'w hiechyd, hapusrwydd a lles ac yn eu cynorthwyo i ddatblygu i fod yn bobl ifanc hyfryd a hyderus yr ydym yn hynod falch ohonynt.