Story
APEL CODA NI AT BROSIECT CYMORTH CRISTNOGOL I ATGYFNERTHU CYMUNEDAU YN BURKINA FASO SY'N DIODDEF O GANLYNIAD I EFFAITH LLIFOGYDD SYDYN
Yn ystod 2010/2011 llwyddodd Criw Coda Ni i godi £5000 fel partner ym mhrosiect Cymorth Cristnogol i gefnogi cymunedau bregus a newynog ar gyrion y Sahara yn Burkina Faso.
O ganlyniad i ymgyrch Cymorth Cristnogol y mae cymunedau yn nhaleithiau Oudalan a Gorom Gorom wedi derbyn storfeydd grawn newydd - gyda phwyllgorau o bobl leol i rannu bwyd argyfwng -
ac hefyd ffynhonnau dwr a hadau o fath newydd i olygu fod tir ymylol yn gallu cynhyrchu bwyd ac atal ymlediad y twyni tywod. Rhoddwyd darnau o dir ymylol i'r bobl dlotaf a oeddent heb dir fel eu bod yn gallu bwydo eu hunain ac adfer hunan-barch.
Fodd bynnag, gwnaeth llifogydd sydyn (sy'n digwydd yn rheolaidd yn eironig iawn) ddinistrio llawer o'r gwaith da a wnaed. Mae gwrthweithio effaith y llifogydd yn destun i brosiect newydd Cymorth Cristnogol.
Mae'r llifogydd yn dinistrio adeiladau ac yn difa anifeiliaid sy'n sail i allu'r cymunedau i'w bwydo eu hunain. Bwriad y prosiect newydd
* Adfer y cyflenwad bwyd
* Trwsio ac uwchraddio'r offer amaethyddol a ffynhonnau
* Hyfforddi cymunedau mewn dulliau o leihau effaith ddinistriol lifogydd trwy adeiladau argaeau a phlannu coed
* Sefydlu gerddi masnachol i hybu'r economi lleol.
----------------------------------------------------------------------------
Sefydlwyd Criw "Coda Ni" yn 2009 yn ardal Pencader. Rydym yn griw o Gristnogion sy'n awyddus i estyn llaw cariad Duw i godi pobl anghenus i brofi bywyd yn ei gyflawnder. Fel hyn y cawn ninnau oll ein codi i fywyd.
Yn Hydref 2010, ymwelodd tri o griw "Coda Ni" a Burkina Faso i ymweld a'r cymunedau bregus yn ardal Gorom Gorom o Burkina Faso er mwyn gweld prosiect Cymorth Cristnogol ar waith. Cewch weld y ffilm YMA. Yn rhyfeddol, y mae'r ffilm yn cyfeirio at broblem y llifogydd sydyn sy'n destun i brosiect newydd Cymorth Cristnogol, ac yr ydym wedi cymryd hyn yn arwydd y dylem fabwysiadu'r prosiect newydd.
Rydym wedi cofrestru fel partner i Gymorth Cristnogol yn y prosiect ac wedi ymrwymo i godi £5000 cyn diwedd 2012. Bydd yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi £4 am bob £1 a godwn ni, a gall £25,000 wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau yn Burkina Faso.
Apeliwn arnoch felly i gyfrannu ac apeliwn ar grwpiau, cymdeithasau ac eglwysi y tro hwn i ymuno a ni yn y gwaith. Byddwn yn barod iawn i ymweld a chi ac wrth gwrs gydnabod eich cyfraniad.